Almor Winston LloydTHOMASYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Iau 7fed o Fai 2020, wedi tostrwydd creulon a wynebodd yn ddewr ac urddasol, hunodd Almor, Maes-y-blodau, Pwll Trap, Sanclêr. Priod ffyddlon Doreen, tad annwyl Alun, Rhian a'i chymar Richard, tad-cu cariadus Cerys a Tomi, brawd a brawd-yng-nghyfraith parchus, ac wncwl hoffus iawn. Angladd hollol breifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth yn unol â'r amgylchiadau. Rhoddion er cof, os dymunir, at Parkinson's UK Cymru trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG "Dy ddyddiau o boen sydd drosodd. Dy nosweithiau aflonydd ar ben. Cymerodd Duw ti'n ei freichiau A sibrwd 'heddwch' tu draw i'r llen."
Keep me informed of updates